Tref farchnad hanesyddol yw'r Bala - "Y Bala
dirion deg".
Fe'i sefydlwyd gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif. Codwyd castell "y
Domen" a chynlluniwyd patrwm cyfochrog ei strydoedd yn y
cyfnod hwn. Codwyd y dref gan Roger de Mortimer fel cadarnle i
dawelu brodorion rhyfelgar ardal Penllyn, sef yr ardal o gwmpas
pen llyn Tegid. Ar yr un pryd rhoddwyd siarter i'r dref a chaniatâd i
greu swyddogaeth y maer am y tro cyntaf - traddodiad 'rydym yn
falch o'i gynnal hyd heddiw!
Mae'r gair Bala yn
dynodi lle mae afon
yn llifo o'r llyn - yr
afon Ddyfrdwy o lyn
Tegid. Llyn Tegid yw'r
llyn naturiol mwyaf
yng Nghymru. Hen
enw ar y llyn oedd
"Pimblemere" sef
ynganiad ar “Pum
Plwyf mere” yn ôl
rhai.
Ceir sawl enghraifft o bwysigrwydd hanesyddol y dref ac ardal
Penllyn - yma er enghraifft y daeth Iwl Cesar ymerawdwr Rhufain
am geffylau i’w fyddin.
Yn 1485 daeth byddin Harri Tudur drwy'r ardal ar ei daith i faes y
gad yn Bosworth canolbarth Lloegr. Aeth Rhys ap Meredudd gyda
Harri Tudur i'r frwydr ac wedi'r fuddugoliaeth enillodd y teulu gryn
freintiau gan y brenin newydd, Harri'r Seithfed, hyn a arweiniodd yn
ei dro at sefydlu ystâd y Rhiwlas.
Bu'r diwydiant gwlân yn bwysig i'r dref ac yn enwedig y traddodiad
o weu sanau - dyma oedd Siôr y Trydydd yn mynnu ei gwisgo i
leddfu poen ei grud cymalau.
Dylanwadodd tref y Bala mewn sawl ffordd ar Gymru a thu hwnt -
yma y profwyd y diwygiad crefyddol a man cychwyn sefydlu
Cymdeithas y
Beibl.
Ysbrydolwyd y
parchedig
Thomas Charles i
weithredu wedi
taith hir Mari
Jones i'r Bala, yn
droednoeth, i
geisio am gopi
o'r Beibl.
Yn y dref hefyd y
ganwyd Betsi
Cadwaladr a
aeth i'r Crimea i
nyrsio ac i wella
amgylchiadau
erchyll y milwyr
clwyfedig yn
ystod y rhyfel
yno.
Ar gyrion y dref
mae hen gartref Michael D Jones a fu yn flaenllaw wrth geisio
sefydlu'r wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Tom Ellis, aelod seneddol dros Feirionnydd a prif chwip y
Rhyddfrydwyr, sydd yn cael ei goffau mewn cerflun trawiadol ar y
Stryd Fawr. Yn adeilad yr Henblas gerllaw ymddangosir Tom Ellis
eto ar ffurf penddelw gan y cerflunydd enwog o Gymro, Syr W
Gascombe John.
Yn yr Henblas y mae Cyngor Tref y Bala a Chynghorau Cymuned
Plwyfi Penllyn yn cydweithio er mwyn sicrhau bodolaeth
gwasanaethau o safon i bobl yr ardal.
Cyngor Tref
Y Bala
Town Council
Cynghorau Penllyn Councils © 2024
Website designed and maintained by H G Web Designs