Plwyf yng nghantref Penllyn yw Llandderfel. Yn 1985 ffurfiwyd y Cyngor Cymuned presennol wrth gyfuno hen blwyf Llanfor a hen blwyf Llandderfel.Yn ddaearyddol y mae’n un o’r plwyfi mwyaf yng Nghymru ag arwynebedd o bron ugain mil hectar sy’n ymestyn o ffiniau Cyngor Bwrdeistref Conwy yn y gogledd i Sir Ddinbych yn y gogledd a’r dwyrain ac at derfyn Powys yn y de ddwyrain. Poblogaeth denau a gwasgaredig sydd i’r gymuned wledig hon yn cynnwys pentrefi Llandderfel, Glanrafon, Llanfor, Frongoch a Sarnau. Yng nghyfrifiad 2011 yr oedd y boblogaeth yn 1,511 a thua 71% o’r rhain yn medru siarad Cymraeg. Rhed afon Dyfrdwy drwy ganol y plwyf a ffurfia afonydd Celyn a Thryweryn ran helaeth o’r ffiniau gorllewinol a deheuol. Rhed afon Celyn i’r llyn a gronwyd yn y chwedegau i gyflenwi dinas Lerpwl. Y tri chopa uchaf yn yr ardal fynyddig hon yw Carnedd y Filiast (669 metr), Foel Cwm Siân Llwyd (648 metr), a’r Foel Goch (611 metr).
English English

Cyngor Cymuned

Llandderfel

Community Council

Cynghorau Penllyn Councils © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs